Categorïau
Blog

Iechyd meddwl dynion yn y gweithle a thu hwnt

Y mis Tachwedd hwn, i gydnabod mis ymwybyddiaeth iechyd meddwl dynion, rydym yn edrych ar sut mae diwylliant, gwrywdod a phwysau yn y gweithle yn dylanwadu ar les dynion.

Yn y blog hwn, mae Rashda Ali, un o therapyddion Canopi, yn rhannu ei mewnwelediadau i effaith stigma a disgwyliadau diwylliannol ar iechyd meddwl dynion a sut y gallwn gefnogi eu lles yn well ac annog dynion i deimlo eu bod wedi’u grymuso i geisio cymorth.

Dechreuodd fy niddordeb yn ystod fy astudiaethau ôl-raddedig, lle gwnes i waith ymchwil i brofiadau dynion o iechyd meddwl mewn diwydiannau sy’n cael eu dominyddu gan ddynion, yn enwedig y sector adeiladu.

Amlygodd y gwaith ymchwil hwnnw sut y gall disgwyliadau diwylliannol ynghylch gwrywdod, stigma a phwysau yn y gweithle lunio sut mae dynion yn adnabod emosiynau ac anawsterau emosiynol ac yn ymateb iddynt.

Mae gen i ddiddordeb ychwanegol mewn iechyd meddwl dynion o safbwynt diwylliannol, yn benodol mewn cymunedau de Asiaidd.

Yn fy rôl bresennol, rwy’n darparu therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) i staff gofal iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru sy’n profi straen, gorbryder neu iselder.

Er bod sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn aml yn cael eu hystyried yn gyffredinol fel rhai sy’n cael eu dominyddu gan fenywod, mae yna lawer o feysydd fel llawdriniaeth, meddygaeth frys, ystadau a rolau arweinyddiaeth, lle mae dynion yn ffurfio cyfran sylweddol o staff.

Gellir gweld heriau tebyg i’r rhai a geir mewn diwydiannau eraill sy’n cael eu dominyddu gan ddynion yn yr amgylcheddau hyn, yn enwedig o amgylch ceisio cymorth a bod yn agored am iechyd meddwl.

Mae llawer o ddynion yn ofni cael eu gweld fel rhai gwan neu sy’n methu ag ymdopi, hyd yn oed pan fyddant o dan llawer o bwysau. Dros amser, gall hynny arwain at chwythu plwc, unigedd neu waethygu symptomau gorbryder neu iselder.

Mewn gweithleoedd lle mae gwydnwch a hunan-ddibyniaeth yn cael eu hystyried fel rhinweddau hanfodol, weithiau gall deimlo’n anodd i ddynion gydnabod pan fyddant yn cael trafferth.

Ar draws llawer o ddiwylliannau, mae dynion yn aml yn cael eu magu i werthfawrogi cryfder, cyfrifoldeb a rheolaeth emosiynol. Gall y rhinweddau hyn fod yn ffynonellau balchder a gwytnwch, ond gallant hefyd ei gwneud hi’n anoddach i ddynion fynegi gofid neu ofyn am help pan fydd ei angen arnynt.

Mae’n hanfodol gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol yn y gwerthoedd sydd gennym. Mae’r rhain yn effeithio ar ein hymddygiadau a’n barn.

Mewn teuluoedd de Asiaidd, efallai y bydd ystyr dwfn yn gysylltiedig â chyfrifoldeb ac anrhydedd, gyda dynion yn teimlo pwysau i lwyddo a chefnogi eraill. Mae disgwyliadau tebyg o ddygnwch a stoiciaeth i’w gweld ar draws diwylliannau dwyrain Asiaidd, y Dwyrain Canol, Affricanaidd ac America Ladin.

Er y gall y credoau hyn feithrin dyfalbarhad, gallant hefyd gyfrannu at dawelwch a hunan-feirniadaeth pan ddaw bywyd yn llethol. Gall CBT helpu dynion i archwilio sut mae’r negeseuon diwylliannol hyn yn llywio safbwyntiau ac ymddygiadau a datblygu ymdeimlad mwy cytbwys o wydnwch; un sy’n cynnwys hunan-dosturi, natur agored a’r dewrder i geisio cefnogaeth.

Y cam cyntaf yw ymwybyddiaeth – cydnabod bod diwylliant yn y gweithle yn chwarae rhan fawr yn y modd y mae dynion yn profi ac yn mynegi gofid.

Gall sefydliadau wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl, herio stigma a sicrhau bod opsiynau cymorth yn weladwy ac yn hygyrch.

Fel therapyddion, ein nod yw creu gofod cyfrinachol a chefnogol lle gall dynion siarad yn agored am sut maen nhw’n teimlo ac archwilio ffyrdd iachach o reoli straen.

Yn aml, y cam cyntaf gorau yw cadw mewn cysylltiad a chael sgwrs ddilys, gofalgar. Gofynnwch sut mae pethau, gwrandewch heb geisio trwsio pethau’n syth. Rhowch sicrwydd iddyn nhw ei bod hi’n iawn siarad.

Os ydyn nhw’n gweld bod pethau’n anodd, anogwch nhw i geisio cefnogaeth broffesiynol – boed hynny drwy wasanaethau yn y gweithle, eu meddyg teulu neu estyn allan at wasanaeth fel Canopi.

Nid yw iechyd meddwl dynion yn bodoli ar ei ben ei hun – mae’n cael ei lunio gan ddiwylliant yn y gweithle, disgwyliadau cymdeithasol a pha mor agored ydyn ni i siarad am ein brwydrau.

Drwy greu amgylcheddau cefnogol ac annog dynion i estyn allan yn gynnar, gallwn wneud gwahaniaeth ystyrlon i’w lles a’u gwytnwch yn y gwaith.

Diolch i Rashda am rannu ei mewnwelediadau i’r pwnc pwysig hwn a’i gwaith parhaus gyda Canopi.

Gall cymryd rhan mewn sesiynau seiliedig ar weithgareddau fel cerdded neu gyfarfod mewn mannau cyhoeddus fod yn ffordd syml ond pwerus o gefnogi eich iechyd meddwl.

Gwybodaeth am sut mae eraill yn elwa: Cyfeillgarwch, sgyrsiau a chnydau yn helpu dynion i fynd i’r afael ag iechyd meddwl – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Darganfyddwch straeon bywyd go iawn gan ddynion a siaradodd am eu hiechyd meddwl a sut gwnaeth cefnogaeth gan Canopi wahaniaeth ystyrlon yn eu hadferiad a’u lles.

Darllenwch stori Matt Dod o hyd i nerth trwy gefnogaeth: fy nhaith gyda Canopi

Darllenwch stori Chris Chwerthin unwaith eto – sut ces i fy hiwmor yn ôl