Diolch i chi am ddangos diddordeb mewn dod yn aelod o’r Grŵp Cynghori Cyhoeddus (PAG).
Crynodeb o’r rôl
Fel aelod o PAG, byddwch yn cyfarfod ag aelodau eraill i drafod cynnydd a datblygiad parhaus gwasanaeth Canopi.
Cyfrifoldebau
- Llywio goruchwyliaeth strategol o’r gwasanaeth drwy:
- cyfarfod ag aelodau eraill PAG yn ôl yr angen (tua phob tri mis)
- dod o hyd i rwystrau a’r pethau sy’n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth o ansawdd da
- rhoi adborth ar wahanol agweddau o’r gwasanaeth
Profiad/cymwysterau
- Profiad bywyd, dealltwriaeth a/neu ddiddordeb mewn anawsterau iechyd meddwl
- Profiad o ymwneud â phwyllgorau
- Rhywfaint o brofiad a dealltwriaeth o waith cynnwys y cyhoedd
- Gallu ymrwymo’r amser angenrheidiol ar gyfer busnes y pwyllgor
Sut i wneud cais:
Anfonwch ebost i’n tîm gweinyddol i fynegi diddordeb: canopi@cardiff.ac.uk