Cynghreiriad Lles

Diolch am eich diddordeb mewn dod yn Gynghreiriad Lles.

Rhagor o wybodaeth am y rôl a sut i ymgeisio isod.

Crynodeb o’r rôl

Yn eich rôl yn Gynghreiriad Lles, byddwch yn cynnig cefnogaeth i staff iechyd/gofal cymdeithasol eraill sy’n cael anawsterau iechyd meddwl a lles. Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus i’ch helpu i symud ymlaen â’ch rôl. Swydd wirfoddol yw hon ac mae’r oriau gwaith yn hyblyg.

Cyfrifoldebau

  • Cynnig cefnogaeth gyfrinachol i unigolion sy’n cael eu cyfeirio o’r gwasanaeth Canopi.
  • Datblygu eich perfformiad yn ystod cyfarfodydd hyfforddi a goruchwylio.
  • Rhoi gwybod am bryderon diogelu brys i Dîm Desg Gymorth Canopi (neu 999 y tu allan i oriau gwaith).
  • Gweithio oriau hyblyg a hysbysu’r tîm os oes newidiadau i’r amseroedd rydych ar gael.
  • Mynd i gyfarfodydd adolygu bob chwe mis i drafod sut mae pethau’n mynd.

Cymwysterau

  • Profiad blaenorol neu gyfredol o ymarfer proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol a/neu ofal iechyd
  • Gwybodaeth am y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • Dull empathetig
  • Y gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd cymhleth
  • Sgiliau cyfathrebu, rheoli amser a threfnu da
  • Ymrwymiad i gynnig gwasanaeth cyfrinachol yn unol ag egwyddorion datgelu Caldicott.

Sut i wneud cais:

  1. Ystyriwch pa ddiwrnodau ac oriau gwaith sy’n gynaliadwy i chi
  2. Gwnewch ddatganiad o ddiddordeb drwy lawrlwytho’r ffurflen a’i chyflwyno i: canopi@caerdydd.ac.uk
  3. Os bydd eich cais cychwynnol yn llwyddiannus, byddwn yn ceisio cysylltu o fewn mis.