Mae Canopi yn darparu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim ar gyfer staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Sylwer nad ydym yn wasanaeth brys. Os oes angen help arnoch ar unwaith, cliciwch yma.
Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd bydd gwasanaeth Canopi ar agor/ar gau ar yr amseroedd isod. Bydd ein tîm gweinyddol ar gael drwy ein llinell ffôn, a byddant yn ymateb i atgyfeiriadau ac e-byst yn ystod yr oriau agor hyn:
- Dydd Llun 22 Rhagfyr AR AGOR 9am-5pm
- Dydd Mercher 24 Rhagfyr AR GAU
- Dydd Mawrth 23 Rhagfyr AR AGOR 9am-5pm
- Dydd Iau 25 Rhagfyr AR GAU
- Dydd Gwener 26 Rhagfyr AR GAU
- Dydd Llun 29 Rhagfyr AR AGOR 9am-5pm
- Dydd Mawrth 30 Rhagfyr AR AGOR 9am-5pm
- Dydd Mercher 31 Rhagfyr AR GAU
- Dydd Iau 1 Ionawr AR GAU
- Dydd Gwener 2 Ionawr AR AGOR, YN ÔL I ORIAU AGOR ARFEROL (Llun-Gwener, 9am-5pm)
Ffoniwch ni ar: 0800 058 2738
Ffurflen atgyfeirio
Angen siarad? Os hoffech gael cymorth drwy Canopi, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn anfon ebost atoch o fewn un diwrnod gwaith.
Sylwer hefyd: Ni fydd Canopi fel arfer yn derbyn hunanatgyfeiriadau gan unigolion sy’n derbyn triniaeth seicolegol neu therapi yn rhywle arall ar hyn o bryd, sydd ar fin dechrau therapi, neu sydd newydd orffen. Mewn achosion o’r fath, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n trafod eich rhesymau dros geisio cymorth ychwanegol gyda’ch darparwr gofal presennol neu’ch meddyg teulu.
Beth sy’n digwydd nesaf?
- Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen atgyfeirio, byddwch chi’n derbyn e-bost cyn pen un diwrnod gwaith er mwyn i chi gadarnhau eich manylion. Bydd gofyn i chi lenwi ffurflen fer, lle bydd cwestiynau arni yn gofyn am eich cyflwr iechyd a sut rydych chi wedi bod yn teimlo’n ddiweddar.
- Unwaith y byddwn ni’n derbyn y ffurflen gennych chi, bydd dolen yn cael ei hanfon atoch chi er mwyn i chi allu trefnu apwyntiad gyda chynghorydd sy’n feddyg
- Pan fydd hi’n amser am eich apwyntiad, bydd y Cynghorydd sy’n Feddyg yn eich ffonio chi o rif preifat (“withheld”). Gwiriwch eich post sothach fel eich bod chi ddim yn colli ein negeseuon e-bost.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw pwrpas apwyntiad Meddyg Cynghorol?
Nod yr apwyntiad gyda’r Meddyg Cynghorol yw cael trafodaeth mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol a gwrando ar y materion sydd gennych. Yna gallwn benderfynu a all ein gwasanaeth eich helpu ymhellach.
Os nad ydych yn addas ar gyfer ein gwasanaeth, gallwn ymchwilio ymhellach er mwyn canfod a oes llwybrau mwy priodol i chi gael help.
Argaeledd Meddygon Cynghorol
Mae apwyntiadau Meddygon Cynghorol Canopi ar gael rhwng 9am ac 8pm ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).
Nid wyf wedi derbyn cadarnhad fy apwyntiad
Caniatewch hyd at un diwrnod gwaith i dderbyn eich e-bost cadarnhau a gwiriwch eich ffolder post sothach cyn cysylltu â’r tîm.
Ble bydd fy manylion yn cael eu rhannu?
Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio ac yn gofalu am eich data, ewch i’n polisi preifatrwydd.
