Mae Canopi yn cynnig gwasanaeth cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim i staff gofal cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru sy’n 18 oed neu’n hŷn.
Rydym yn cynnig lefelau amrywiol o gymorth iechyd meddwl gan gynnwys:
- Adnoddau hunangymorth
- Cymorth gan Gynghreiriaid Lles
- Hunangymorth gydag arweiniad
- Therapïau rhithwir ac wyneb yn wyneb gydag arbenigwyr achrededig.
Nid yw Canopi yn darparu cymorth brys. Os oes angen help arnoch ar unwaith, cliciwch yma.
Pam rydyn ni yma?
Roedd Canopi yn cael ei adnabod gynt fel HHP Cymru, ac mae’n darparu cymorth i’r rhai sydd â symptomau iechyd meddwl a seicolegol, gan gynnwys:
- Gorbryder
- Iselder
- Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
- Materion sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Pwy sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth?*
Mae Canopi yn bodoli fel rhan o rwydwaith ehangach o wasanaethau cymorth sydd ar gael ar gyfer staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys eich meddyg teulu. Os ydych yn dod o rywle arall yn y DU, mae’r gwasanaethau canlynol ar gael yn Lloegr a’r Alban.
Fodd bynnag, yn aml nid yw’n ddefnyddiol derbyn cymorth o sawl man ar unwaith. Os ydych eisoes yn derbyn cymorth seicolegol, efallai na fyddwn yn derbyn eich atgyfeiriad ar hyn o bryd, ac y byddwn yn gofyn i chi drafod y rhesymau yr ydych yn ceisio cymorth ychwanegol â’ch darparwr neu’ch meddyg teulu presennol.
Yn anffodus, nid yw Canopi yn gallu helpu gyda chyngor ariannol neu gyfreithiol, cyfryngu, cwnsela perthynas nac eiriolaeth.
Mae eich cyfrinachedd yn bwysig
Ydych chi’n poeni am ddweud wrth rywun sut rydych chi’n teimlo?
Ein nod yw darparu cymorth i’r rhai sy’n teimlo na allant gael cymorth gan eu gwasanaethau a ddarperir gan eu cyflogwyr. Darllenwch fwy am ein polisi preifatrwydd.
Sut mae’n gweithio
- Atgyfeiriwch eich hun gan ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio ar-lein. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn un diwrnod gwaith.
- Os ydych yn gymwys, byddwn yn trefnu i chi gael galwad gan Feddyg Cynghorol (MC) sydd wedi’i hyfforddi’n llawn, a fydd yn ceisio deall eich anghenion.
- Gyda’ch gilydd, gallwch benderfynu pa rai o’r gwasanaethau cymorth canlynol a allai fod fwyaf defnyddiol:
Adnoddau hunangymorth
Mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill fel Gofal Cymdeithasol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac Iechyd Ymarferwyr Lloegr y GIG, rydym yn cyfeirio pobl i gyfoeth o wasanaethau lles ar-lein, ar apiau a rhithwir.
Cymorth Cynghreiriaid Lles
Gall Canopi ddarparu cydweithiwr profiadol, neu ‘Gynghreiriad Lles’ o iechyd neu ofal cymdeithasol, ar gyfer unigolion. Mae Cynghreiriaid Lles wedi’u hyfforddi i wrando a chreu mannau diogel i chi rannu eich pryderon.
Hunangymorth gydag arweiniad
Mae hon yn driniaeth seicolegol effeithiol ar sail tystiolaeth sy’n cyfuno arweiniad rheolaidd gan therapydd â deunyddiau, y gallwch eu defnyddio pan fydd yn gyfleus i chi. Gallai hyn gynnwys:
- Silvercloud
- Y Gwanwyn
- Therapi Ymddygiad Gwybyddol dan Arweiniad Therapydd
Ymgynghoriadau wyneb yn wyneb/rhithwir
Efallai y cewch eich atgyfeirio am gwrs byr Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (ThGY) gyda therapydd achrededig. Gan ddibynnu ar eich dewis, gall hyn ddigwydd ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Beth nesaf?
- Atgyfeiriwch eich hun i gymorth heddiw
- Cysylltwch â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg
- Defnyddiwch ein hadnoddau ar-lein am ddim
- Darllenwch ein blogiau am rai o’r profiadau bywyd a materion lles meddyliol sy’n effeithio ar staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Archebwch bosteri Canopi ar gyfer eich gweithle i godi ymwybyddiaeth.