Mae gofalu am eich iechyd meddwl yn un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud, a gall camau bach hyd yn oed wneud gwahaniaeth mawr.
Mae ymchwil yn dangos y gallwch chi gynnwys pum cam syml yn eich bywyd bob dydd i wella’ch hwyliau a’ch helpu i fwynhau’r pethau sydd bwysicaf.
Datblygwyd y camau hyn, “Y pum ffordd at les”, gan y New Economics Foundation a phrofwyd eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol go iawn ar iechyd meddwl a lles cyffredinol.
Felly, beth yn union yw’r pum cam hwn a sut gallwch chi ddechrau eu rhoi nhw ar waith?
Cysylltu
Mae cysylltiad cymdeithasol yn bwysig a gall fod mor syml â chael sgwrs gyda rhywun dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Cadw’n heini
Does dim rhaid i hyn fod yn weithgaredd egnïol, gall mynd am dro hamddenol wella ein hwyliau. Mae gweithgareddau yn aml yn ein cysylltu ni ag eraill hefyd.
Talu sylw
Mae talu mwy o sylw i’r foment bresennol (trwy dechnegau ymwybyddiaeth ofalgar) yn cadw ein traed ar y ddaear ac yn ein helpu i fod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau, ein teimladau a’n hymddygiadau. Gall talu sylw i’r presennol hefyd ein helpu i werthfawrogi’r hyn sy’n digwydd yn yr amgylchedd ffisegol o’n cwmpas.
Dal i ddysgu
O ddysgu ffurfiol i roi cynnig ar rywbeth newydd, fel hobi, rysáit neu lwybr cerdded newydd, mae’n ysgogi’r ymennydd a gall roi hwb i’n hyder.
Rhoi
Gall helpu pobl eraill ein helpu ni: gall gweithred o garedigrwydd, boed fach neu fawr, wneud i ni deimlo’n bositif. Gallwn ni helpu mewn sawl ffordd, drwy wirfoddoli neu yn syml helpu ffrind mewn angen neu berthynas ifanc gyda gwaith cartref.

Does dim rhaid cynnwys y camau hyn yn eich bywyd i gyd ar unwaith. Gall hyd yn oed camau bach, cyson wneud gwahaniaeth gwirioneddol dros amser.
O estyn allan at ffrind, mynd am dro byr, sylwi ar y byd o’ch cwmpas, rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu fod yn garedig, gall pob gweithred helpu i wella’ch hwyliau, meithrin gwydnwch a dod â mwy o gydbwysedd i’ch bywyd.
Dechreuwch gydag un neu ddau o’r camau hyn heddiw i weld sut y gallant eich helpu i deimlo’n fwy cysylltiedig, medrus a chadarnhaol.
Adnoddau
Darganfyddwch fwy o ffyrdd o gynnwys y camau hyn yn eich trefn arferol: Five Ways to Wellbeing | Mind
Darllenwch fwy
- Blog Canopi: Blog Canopi: Therapi yn y Gymraeg: Dyma’n therapydd sy’n siarad Cymraeg Dr Eleri Powell, a argymhellodd y pum ffordd at les
- Blog Canopi: Aros, edrych a gwrando: sut mae gwylio adar o les i fy iechyd meddwl
- Blog Canopi: Amser glanhau adeg y gwanwyn? Chwe ffordd y gall y tymor hwn fod o fudd i’ch lles meddyliol – Canopi
