Categorïau
Blog

Dod o hyd i nerth drwy gefnogaeth: fy nhaith gyda Canopi

Yn aml, nid ydym yn sylwi ar heriau iechyd meddwl ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac, i lawer, gall estyn allan am gymorth deimlo fel cam amhosibl. Ond i’r rhai sy’n cymryd y cam hwn, gall y canlyniadau newid bywydau.
Yn y blog hwn, mae Matt , sy’n nyrs cofrestredig, yn rhannu ei daith — o sylwi ar arwyddion cynnar trafferthion meddyliol, i gael cefnogaeth drwy Canopi.

Mewn rhywfaint o ddeunydd hyrwyddo y sylwais i ar Canopi am y tro cyntaf, ond nes i ddim rhoi llawer o sylw iddo i fod yn onest. Newidiodd hynny pan ddychwelais i’r gwaith ar ôl cyfnod o salwch.

Roeddwn i’n siarad â chydweithiwr am fy hwyliau isel a’m trafferthion cyffredinol, ac fe wnaeth hi argymell Canopi yn gryf, gan sôn wrtha i faint roedd wedi ei helpu hi. Fe wnaeth clywed hi’n siarad mewn modd mor gadarnhaol am y gefnogaeth a gafodd fy annog i ymchwilio i’r hyn oedd ar gael.

Pan oedd popeth yn teimlo fel ei fod yn ormod imi

Ar y pryd, roeddwn i yng nghamau cynnar cynllun dychwelyd i’r gwaith yn raddol. Roeddwn i newydd gael diagnosis o gyflwr iechyd hirdymor ac yn dal i brosesu beth oedd hynny’n ei olygu i fy mywyd. Yn emosiynol, roeddwn i ar chwâl; yn bryderus, ar bigau’r drain, yn bigog.

Yn y gwaith, fe ddechreuais i gael achosion a phyliau o banig a wnaeth imi deimlo bod angen imi ddianc i le diogel, fel swyddfa fy nhîm. Roedd hyn yn codi ofn arna i, a gwyddwn na allwn i barhau fel ‘na.

Er mai dim ond yn rhan-amser yr oeddwn i’n gweithio gan fy mod yn dychwelyd yn raddol, roedd effeithiau fy nghyflwr meddwl yn effeithio ar fy mywyd personol. Sylwais i ar sut roeddwn yn ymateb a’m hwyliau gartref yn effeithio ar fy nheulu – ac roedd hynny’n anodd ei dderbyn. Roedden nhw eisoes wedi fy nghefnogi drwy gyfnod anodd iawn ac roedd y ffaith fy mod i’n peri mwy o ofid iddyn nhw yn fy mhoeni’n fawr.

Y newidiadau positif a wnes i trwy therapi

Ar ôl cysylltu â Canopi, cafodd therapydd ei ddyrannu ar fy nghyfer a dechreuais gael therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Roedd hyn yn apelio’n fawr ata i gan ei fod yn cyd-fynd â’r ffordd rwy’n hoffi delio â phroblemau.

Fe wnaeth fy helpu i feddwl yn gliriach am sut roeddwn i’n teimlo a rhoddodd ffyrdd ymarferol imi reoli fy ymatebion. Cafodd hynny ei droi yn rhyfeddol o ddefnyddiol, yn enwedig pan es drwy weithdrefn fawr a oedd yn gysylltiedig â’m salwch hirdymor.

Nawr, rwy’n teimlo bod gen i fwy o reolaeth.

Mae’r orwyliadwriaeth a oedd yn arfer peri cymaint o drafferth imi ar un adeg, yn llawer llai dwys erbyn hyn. Anaml iawn y bydda i’n cael pyliau o banig. Rwy’n dawelach fy meddwl ac yn fwy ymwybodol o fy mhatrymau meddyliol, sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr.

Does dim rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun

Rydw i eisoes wedi sôn wrth nifer o gydweithiwr am Canopi. Mae wedi bod yn rym mor gadarnhaol yn fy mywyd, rydw i am i eraill wybod bod y math hwn o gymorth ar gael a’i fod yn gweithio.

Os ydych chi’n wynebu rhywbeth tebyg, peidiwch â’i gadw i chi’ch hun. Dw i’n aml yn dweud:

Rydw i wedi defnyddio Canopi yn y gorffennol ac mae’r gefnogaeth a gefais wedi bod o gymorth enfawr i deimlo’n eithaf normal eto. Dylech chi ystyried siarad â nhw.

Mae’n werth yr ymdrech – a does dim rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun.


Diolch o galon i Matt – mae angen cryfder i rannu eich stori a helpu eraill i deimlo’n llai unig.


Rhagor o wybodaeth 

I gael rhagor o straeon am brofiadau go iawn, yn ogystal ag argymhellion ynghylch iechyd meddwl a lles sy’n seiliedig ar dystiolaeth, darllenwch ein blog

Atgyfeiriwch eich hun heddiw

Ewch i’n tudalen Amdanom ni i ddysgu mwy am sut gallwn ni helpu.