Cyn mis Ebrill 2022, roedd ein gwasanaeth yn cael ei adnabod fel Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP Cymru).
Rydym bellach yn cynnig cymorth iechyd meddwl i staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru o dan yr enw Canopi.
Atgyfeirio
Os hoffech atgyfeirio rhywun i gael cymorth gan wasanaeth Canopi, llenwch ein ffurflen atgyfeirio.
Help mewn argyfwng
Os ydych angen siarad â rhywun ar frys, gallwch ffonio’r Samariaid ar 116 123 neu tecstiwch FRONTLINE i 85258.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Help mewn argyfwng.
Hunangymorth
Hefyd, mae llawer o grwpiau hunangymorth a grwpiau rhithwir y gallech droi atynt. Mae dolen i’r rhain i’w gweld ar ein tudalen Adnoddau.
Efallai y bydd gan eich bwrdd iechyd chi gymorth y gallwch droi ato hefyd.
Chwilio am help y tu allan i Gymru?
Cymorth yn yr Alban
Mae Gwasanaeth Arbenigol y Gweithlu (WSS), a ddarperir gan Iechyd Ymarferwyr y GIG, yn wasanaeth iechyd meddwl amlddisgyblaethol cyfrinachol sydd ag arbenigedd mewn trin gweithwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol proffesiynol a reoleiddir. Maent yn arbenigo mewn gofalu am weithwyr proffesiynol a reoleiddir fel cleifion, ac felly maent yn arbenigwyr ar y rhyngwyneb rhwng rheoleiddio, cyflogaeth a salwch meddwl a dibyniaeth.
Cymorth yn Lloegr
Mae Iechyd Ymarferwyr yn wasanaeth GIG cyfrinachol am ddim i feddygon a deintyddion ledled Lloegr sydd â salwch meddwl a phroblemau caethiwed, sy’n gweithio neu’n awyddus i ddychwelyd i ymarfer clinigol.
Gall y gwasanaeth helpu gyda materion sy’n ymwneud â phryder iechyd meddwl, gan gynnwys straen neu iselder neu broblem caethiwed, yn enwedig lle gallai’r rhain effeithio ar waith. Darperir y gwasanaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n arbenigo mewn cymorth iechyd meddwl i feddygon ac mae ar gael mewn gwahanol leoliadau ledled Lloegr